Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn ymdrin â phopeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn gallu addysgu Saesneg fel iaith dramor.
Mae addysgu Saesneg yn ffordd wych o weld y byd, a bydd yn eich galluogi i addysgu mewn pob math o amgylchedd.
Yn ystod eich gradd tair blynedd, byddwch yn dysgu am ddamcaniaeth ac ymarfer, methodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddi sgyrsiau.
Mae bron 98% o raddedigion gradd anrhydedd sengl a chydanrhydedd mewn Saesneg a TESOL o Brifysgol Abertawe mewn swydd neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (97.4% - Dangosydd Perfformiad HESA o DLHE 2013/14), a bydd ein gradd Saesneg a TESOL yn eich rhoi mewn safle gwych i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd.