Trosolwg o'r Cwrs
Trwy ein gradd TESOL a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau i addysgu Saesneg fel ail iaith, yn ogystal ag ymchwilio agweddau ar lenyddiaeth Saesneg, o ffuglen gothig i ysgrifennu creadigol.
Mae addysgu Saesneg yn ffordd wych o weld y byd, a bydd y radd hon yn dysgu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous.
Yn ystod eich gradd tair blynedd, byddwch yn dysgu am ddamcaniaeth ac ymarfer, methodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddi sgyrsiau.
Bydd hefyd cyfle i chi dreulio semester yn astudio yn Unol Daleithiau America, Hong Kong neu Singapôr – profiad cyffrous a fydd yn gwella'ch rhagolygon gyrfa.