Trosolwg o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio dwy iaith o blith Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg ac mae'n rhaid i chi feddu ar Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn o leiaf un ohonynt pan fyddwch chi'n dechrau'r cwrs.
Yn ogystal â'r modiwlau iaith, byddwch yn ymgymryd â dau fodiwl Addysg bob blwyddyn. Mae'r modiwlau hyn yn archwilio rôl yr addysgwr mewn ymarfer addysgol cyfoes, damcaniaethau dysgu ac addysgu, ffyrdd o wella a diogelu lles mewn lleoliadau addysgol, ynghyd ag arweinyddiaeth a rheolaeth ym maes addysg. Gallwch hefyd ddewis arbenigo mewn dysgu digidol ym myd addysg a dysgu â chymorth technoleg.
Erbyn diwedd eich gradd, dylai fod gennych hyfedredd uwch yn yr ieithoedd a astudir, gyda'ch sgiliau iaith a'ch ymwybyddiaeth yn cael eu hategu ymhellach gan fodiwlau arbenigol mewn cyfieithu ac astudiaethau diwylliannol.
Er bod y rhaglen hon wedi'i llunio'n bennaf ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gyrfa’n ymwneud ag addysg, mae rhai graddedigion diweddar wedi dod o hyd i yrfaoedd yn y Llywodraeth, ym myd Cyfieithu ynghyd ag ym maes Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.