Trosolwg o'r Cwrs
Mae gan Gymru draddodiad telynegol cyfoethog ac Abertawe yw man geni Dylan Thomas. Felly dewch i Brifysgol Abertawe i astudio Llenyddiaeth Saesneg a'r Gymraeg.
Mae'r cwrs yn amrywio o farddoniaeth brotest, storïwyr, dramodwyr o Gymru a statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg i lenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant yn ogystal ag ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Byddwch hefyd yn astudio'r iaith Gymraeg yn y gorffennol a'r presennol, gweithio mewn dwy iaith, cyfieithu ac amlddiwylliannaeth. Cewch gyfle i archwilio canrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg, o waith Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif i gerddi cyfoes Mererid Hopwood.
Gallwch gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.