Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Geneteg a mynd i mewn i’r maes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac sy’n creu effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol y mae arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Geneteg Feddygol, ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60%, bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Bydd ein gradd mewn Geneteg yn rhoi ichi ddealltwriaeth fanwl o'r meini hanfodol hyn ar gyfer bywyd ar y ddaear. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiant genynnau, rhyngweithio gan broteinau, strwythur DNA a niwed iddo, dadansoddi delweddau o fiofoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch.
Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau ardderchog ac yn dysgu sut i lunio arbrofion a chynllunio cynlluniau gwaith.