Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd a fydd yn eich helpu i wneud gwahaniaeth yn y byd? Bydd y radd BSc Cyllid (Cynaliadwyedd) ym Mhrifysgol Abertawe yn eich helpu i gyflawni hyn.
Mae'r radd hon yn berffaith os oes gennych y brwdfrydedd i ddeall damcaniaethau ac arferion cyllid modern wrth bwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd mewn busnes hefyd.
Gyda diddordeb cynyddol gan fuddsoddwyr, mae adrodd ar gynaliadwyedd a buddsoddi ynddo’n prysur ddod yn rym sy'n llywio pob diwydiant.
Drwy godi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd proffesiynol byd-eang, cymdeithasol a moesegol y mae cyllid yn gweithredu ynddo, yn enwedig yng nghyd-destun cynaliadwyedd, byddwch yn canolbwyntio ar integreiddio themâu cyllid yng nghyd-destun ehangach busnes. Mae hyn yn cynnwys archwiliad cynhwysfawr o bynciau fel economeg amgylcheddol, buddsoddi cynaliadwy, adrodd am gynaliadwyedd ariannol, yn ogystal ag integreiddio data ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) a mesurau cynaliadwyedd eraill i'r dull addysgu.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o gysyniadau, damcaniaethau ac arferion allweddol ym maes cyllid ynghyd â datblygu eich gallu i fyfyrio'n feirniadol ar ddysgu'r rheini.
Gan gyfuno damcaniaeth â'r cymhwysiad ymarferol, byddwch yn meithrin sylfaen gadarn o ran cyllid a'r sgiliau y mae eu hangen mewn cynaliadwyedd o ran adrodd a buddsoddi, er mwyn dadansoddi a gwerthuso materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn.