Trosolwg
Mae diddordebau Charlotte ym meysydd rhywedd, rhywioldeb, anabledd ac iechyd, yn enwedig lle mae’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd. Mae ei phrif ddiddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaethu a meddygoli rhyw. Mae'r gwaith hwn yn archwilio profiadau pobl ag amrywiadau o ran nodweddion rhyw neu nodweddion rhyngrywiol, gyda phwyslais ar gydnabyddiaeth, gofal a chyfiawnder.
Ymunodd Charlotte ag Abertawe yn 2022 fel Darlithydd mewn Cymdeithaseg. Cyn hyn, roedd hi'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg (2019-2022). Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd Charlotte dri phrosiect ymchwil a grëwyd ar y cyd: un yn archwilio ffyrdd newydd o feddwl am (an)ffrwythlondeb, amrywiadau o ran nodweddion rhyw, ac oes yr unigolyn, sef (Reprofutures); ail brosiect yn mynd i'r afael ag ofnau am drosglwyddo feirysau ac effaith mesurau hylendid newydd ar weithwyr lletygarwch yn ystod pandemig Covid-19, sef (Beers, Burgers + Bleach); a thrydydd prosiect ar unigrwydd a pherthyn yn achos pobl LGBTQIA+, lle bu'n gweithio gyda'r dramodydd Natalie McGrath i lwyfannu cynhyrchiad theatrig gwreiddiol, sef (The Beat of Our Hearts). Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i Charlotte i gwblhau'r gwaith hwn.
Mae Charlotte hefyd wedi cyflawni swyddi ymchwil yn Sefydliad Usher ym Mhrifysgol Caeredin (2018-2019) ac ym Mhrifysgol Brunel (2016-2018). Cyn hyn, bu'n Gymrawd Ymchwil ar gyfres o brosiectau a ariannwyd gan AHRC o'r enw Around the Toilet (2015-2018). Roedd y gwaith hwn yn archwilio’n feirniadol y syniad o (ddiffyg) hygyrchedd drwy ystyried rhywedd ac anabledd yng nghyd-destun y toiled. Enillodd y tîm Wobr Engage NCPPE am y prosiect hwn yn 2016.
Mae Charlotte yn aelod o'r bwrdd golygyddol ar gyfer The Sociological Review, ac yn gyd-sylfaenydd Queer Disability Studies Network, sef cydweithrediad rhyngwladol rhwng myfyrwyr, academyddion a gweithredwyr, sy’n canolbwyntio ar faterion lle mae astudiaethau cwiar/traws ac anabledd/”crip” yn gorgyffwrdd.