Trosolwg
Mae Dr Desireé Cranfield yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n un o’r Dirprwy Gyfarwyddwyr Rhaglenni Rheoli Busnes (israddedig). Mae gan Desireé ddull arloesol o ymdrin â’i gwaith, ac mae’n mwynhau defnyddio technoleg lle bynnag y bo’n briodol ac yn bosibl, o fewn a thu allan i’r ystafell ddarlithio. Mae’n awyddus i gydweithio a rhwydweithio ag eraill sy’n angerddol am ddarparu dosbarthiadau rhyngweithiol ac ymgysylltiol o ansawdd uchel, gan ddefnyddio technoleg i wella dysgu.
Mae ei diddordebau ymchwil yn perthyn i gyd-destun sefydliadau’r sector cyhoeddus, gyda ffocws ar ddefnyddio technoleg o fewn y cyd-destun hwn i wella dysgu ac addysgu, yn ogystal â gwella prosesau ac arferion. Mae ei phrofiad ymchwil ym maes defnyddio technoleg mewn addysg at ddibenion gwella profiad a llwyddiant dysgu myfyrwyr, ac yn fwy diweddar ym maes eang Rheoli Addysg Uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar ganfyddiadau ac arferion rheoli gwybodaeth a rhannu gwybodaeth. Mae Desireé yn gweithio gyda chydweithredwyr yn Hwngari, De Affrica a’r Alban ar brosiectau sy’n ymwneud â diogelwch symudol yn ogystal â dysgu ar-lein.
Mae wedi cyd-ysgrifennu sawl papur ym maes Rheoli Gwybodaeth, yn ogystal ag ym maes Cyfalaf Deallusol ac Arloesi. Ar hyn o bryd, mae’n adolygydd ar gyfer cyfnodolyn sydd newydd ei sefydlu, y GiLE Journal of Skills Development (GJSD), ac mae’n adolygydd ar gyfer y Knowledge Management Journal. Fe’i gwahoddwyd hefyd i olygu argraffiad arbennig o’r International Journal of Transitions and Innovation Systems.
Mae ganddi dros 17 mlynedd o brofiad darlithio, a mwy na 7 mlynedd o brofiad rheoli. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â sawl prosiect, gyda rolau amrywiol yn cynnwys Rheolwr Ysgol Graddedigion, Rheolwr Prosiect, Dadansoddwr Busnes a Rheolwr Ymchwil.