Trosolwg
Mae Dr Hamidreza Eskandari yn Ddarlithydd Dadansoddeg Fusnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Cyn hynny, bu’n Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Modares Tarbiat ac yn Wyddonydd Ymchwil yn Red Lambda Inc., Orlando, Florida. Derbyniodd Hamid ei PhD mewn Peirianneg Ddiwydiannol a Systemau Rheoli o Brifysgol Central Florida, Orlando. Mae ei ymchwil wedi ymddangos yn y cyfnodolion blaenllaw sy’n cael eu defnyddio i raddio ymchwil ysgolion busnes, gan gynnwys yr International Journal of Production Research, Transportation Research Part A, International Journal of Production Economics, Journal of Operational Research Society, Journal of Heuristics, a chyfnodolion eraill. Yn ystod ei PhD, bu’n gwasanaethu fel Cyswllt Ymchwil ar ambell brosiect mawr a ariannwyd gan yr NSF a NASA-KSC. Ar hyn o bryd mae’n gwahodd geisiadau gan ymgeiswyr doethurol ym meysydd Dadansoddeg Fusnes a Data.