Bay Campus
Dr. Jishnu Bhattacharyya

Dr Jishnu Bhattacharyya

Darlithydd mewn Marchnata, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
309
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jishnu Bhattacharyya yn Ddarlithydd (Llwybr Ymchwil) mewn Marchnata yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Enillodd ei PhD mewn Marchnata o Brifysgol Nottingham a chyn hynny bu’n Wyddonydd Prosiect yn Sefydliad Technoleg India, Delhi. Cyn symud i Brifysgol Nottingham, cymerodd ran mewn gwaith cwrs ymchwil ym maes marchnata yn Sefydliad Rheoli India, Kozhikode.

Mae portffolio ymchwil Dr Bhattacharyya yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd cysylltiedig gan gynnwys: cyfathrebu ym maes cynaliadwyedd; defnydd cynaliadwy; marchnata digidol (â phwyslais penodol ar botiau cymdeithasol); gwneud penderfyniadau dan amodau ansicrwydd (cyflwr seicolegol); rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid (yn enwedig yng nghyd-destun methiannau gwasanaeth); a seicoleg rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, yn enwedig realiti estynedig. Ysgogir ei ymdrechion ysgolheigaidd gan ymrwymiad i integreiddio ymchwil drylwyr ag ymarfer addysgegol a manteisio ar ddisgyblaeth marchnata i feithrin newid cymdeithasol cadarnhaol. Mae'n eiriolwr cryf dros ymagweddau at farchnata sy'n seiliedig ar ddata a thystiolaeth ac wedi'u hwyluso gan ddadansoddeg.

Mae Dr Bhattacharyya wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ôl-raddedig Tri Champws Prifysgol Nottingham; Gwobr y Papur Gorau; Gwobr y Papur â'r Effaith Fwyaf; Gwobr am Gyflwyniad Llafar Ardderchog; Gwobr y Cyflwyniad Poster Gorau; ac Adolygydd Rhagorol. Cyhoeddwyd ei ymchwil mewn cyfnodolion blaenllaw megis y Journal of Travel Research a'r Journal of Business Research, ac mae ei waith wedi cael ei gyflwyno mewn cynadleddau academaidd o bwys, gan gynnwys y rhai a gynhaliwyd gan Academi Farchnata Ewrop (EMAC) ac Academi Farchnata Awstralia a Seland Newydd (ANZMAC). Mae'n chwilio am fyfyrwyr PhD â ddiddordeb mewn unrhyw agwedd ar farchnata, yn ddelfrydol y rhai mae eu hymchwil yn cyd-fynd â'i feysydd diddordeb penodol ef. Bydd ymgeiswyr delfrydol yn ymrwymedig i gynnal ymchwil drylwyr â'r nod o gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd o'r radd flaenaf.

Meysydd Arbenigedd

  • Marchnata Digidol
  • Ymchwil Marchnata
  • Dadansoddeg Farchnata
  • Cyfathrebu ym maes Cynaliadwyedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau addysgu Dr Bhattacharyya yn cynnwys: Gwasanaeth Marchnata; Marchnata Digidol; Rheoli Marchnata yn yr Economi Ddigidol; Dadansoddeg Farchnata; Ymchwil Marchnata; Dulliau Ymchwil; a Seicoleg Defnyddwyr.

Ymchwil Prif Wobrau