Trosolwg
Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Lella hefyd yn cynnal prosiect effaith gymunedol mewn perthynas â’r prosiect atal troseddau casineb, Flip the Streets, sy'n helpu cymunedau i feithrin gwytnwch i gasineb.
Ochr yn ochr â hyn, mae Lella wedi ymchwilio'n helaeth i ddefnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd gan gynnwys naratifau'r asgell dde eithafol a'u lledaeniad drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mae wedi cynnig argymhellion ar gyfer polisi ac ymatebion cymunedol. Yn ogystal â chyd-drefnu nifer o ddigwyddiadau cymunedol ac academaidd ar y pynciau hyn, gan gynnwys gweithdy VOX-Pol ynghylch yr asgell dde eithafol, mae Lella wedi cyhoeddi amrywiaeth o gasgliadau wedi'u golygu, erthyglau mewn cyfnodolion, penodau llyfrau, adroddiadau ymchwil a blogiau drwy gyhoeddwyr blaenllaw yn y maes.
Mae gwaith effaith gymunedol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth wraidd ei hymchwil. Yn fwyaf diweddar mae Lella wedi'i phenodi'n Arbenigwr Ymchwil Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol fel rhan o'r Grŵp Atebolrwydd Allanol. Mae hi hefyd yn aelod gweithgar o'r rhwydweithiau/grwpiau arbenigol canlynol: yr Academic-Practitioner Counter Extremism Network (APCEN) ar gyfer y Comisiwn Gwrth-eithafiaeth (Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig), yn aelod o'r Accelerated Capability Environment (ACE) Research Network, Homeland Security Group yn Swyddfa Gartref y DU yn ogystal â'r UK Counter-Terrorism Policing Evidence-Based Review Group. Yn 2017/18, roedd gan Lella rôl ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Califfornia, Santa Barbara ar Ddyfarniad Seiberddiogelwch Fulbright.
Mae Lella hefyd yn awyddus i weithio ar draws y Brifysgol ac ar hyn o bryd mae'n un o Gymrodorion Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan y Brifysgol ac yn Gyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol (SIREN).