Dr Melanie Morgan

Swyddog Ymchwil
Criminology, Sociology and Social Policy

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Mae Melanie yn Swyddog Ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys hunaniaeth/gwrthrychedd, effaith, dosbarth cymdeithasol, rhywedd a chymunedau ymylol. Fel ymchwilydd ansoddol mae ganddi ddiddordeb penodol mewn dulliau ymchwil seicogymdeithasol ac ymagweddau cyfranogol at ymchwil.

Tynnodd ei thesis PhD; Class, Motherhood and Mature Studentship: (Re)-constructing and (Re) negotiating Subjectivity  ar ystod o waith seicdreiddiol perthynol. Ystyriodd elfennau emosiynol/affeithiol ac anymwybodol dyhead a chymhelliant, a chanlyniadau gwrthrychedd fel menywod dosbarth gweithiol, ac fel mamau a myfyrwyr yn nhirwedd neo-rydfrydiaeth gyfoes.

Nod y thesis oedd cynnig dealltwriaethau cynnil o ddyhead, cymhelliant a thrawsnewidiad fel ffenomen seicogymdeithasol gymhleth, sy'n canolbwyntio ar we o ymarferion rhwng cenedlaethau ac affeithiol mewn perthynas â chyd-destunau dosbarthiadau perthynol, diwylliannol, hanesyddol, daearyddol ac amserol. 

Roedd y thesis yn dadlau bod; angen deall dyhead, cymhelliant a chyfranogiad mewn addysg uwch yng nghyd-destun bywydau menywod go iawn a thirwedd berthynol ac affeithiol y teulu, dosbarth, rhywedd a diwylliant er mwyn mynd i’r afael â materion dyhead.  Mae'n nodi bod dyhead, cymhelliant a chyfranogiad mewn addysg uwch a symudedd cymdeithasol yn brosesau cymhleth sy'n cynnwys agweddau trafferthus, gwrthdaro a chroesosodiadau. Dadleuodd hefyd fod y ffordd mae addysg uwch yn cael ei defnyddio gan y menywod, fel lle i ail-negodi gwrthrychedd yn fwy cymhleth nag agendâu llywodraeth sy'n ystyried symudedd cymdeithasol.

Mae Melanie hefyd wedi gweithio ar ystod o brosiectau ymchwil iechyd a lles yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd.

Mae gwaith diweddaraf Melanie wedi canolbwyntio ar wrthsefyll delweddau casineb mewn cymunedau ledled Cymru gan ddefnyddio datrysiadau digidol. Mae StreetSnap yn fenter i drawsnewid cipio a recordio cudd-wybodaeth a gesglir am graffiti casineb trwy ap a ddyluniwyd gan Dr Lella Nouri ac a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy gyllid partneriaeth SMART.

Mae cyfranogiad, ymgysylltiad a dealltwriaeth o brofiad bywyd goddrychol wrth wraidd ei hymarfer ymchwil. Mae Melanie wedi cyhoeddi pennod llyfr, erthyglau mewn cyfnodolion ac adroddiadau ymchwil.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymchwil seicogymdeithasol
  • Ymchwil ansoddol
  • Mamogaeth ymylol
  • Cymunedau ymylol
  • Delweddau/graffiti casineb

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Mehefin 2015: ‘Emotions, Feelings and Findings’, Digwyddiad FIG, Prifysgol Caerdydd. Enillydd gwobr y cyflwyniad gorau.
  • Ebrill 2016: Enillydd gwobr goffa Audrey Jones a gyflwynwyd gan Gynulliad Merched Cymru yng Nghynhadledd Flynyddol 2016.