Trosolwg
Rick yw Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau a Phoblogaethau sy’n Agored i Niwed Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ymunodd â gweithlu academaidd Prifysgol Abertawe yn 2018 ac mae'n gyd-Gyfarwyddwr yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang .
Galwyd Rick yn ‘ffigwr allweddol ym maes datblygol hawliau dynol a pholisi cyffuriau, ac mae'n adnabyddus am ei ymchwil a'i addysgu blaenllaw ar bynciau sy'n cynnwys cyfreithiau rhyngwladol rheoli cyffuriau, hawliau carcharorion, HIV a hawliau dynol, y gosb eithaf a lleihau niwed. Rick yw cyn-Gyfarwyddwr Gweithredol Harm Reduction International (2010-2018) (2010-2018) ac Irish Penal Reform Trust (2003-2007). Ef hefyd yw cyd-sylfaenydd a Chadeirydd y Ganolfan Ryngwladol ar Hawliau Dynol a Pholisi Cyffuriau yn y Ganolfan Hawliau Dynol, Prifysgol Essex
Am dros ddegawd, cynrychiolodd Rick gyrff anllywodraethol ar fforymau lefel uchel y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau Narcotig, Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig a Bwrdd Cydlynu Rhaglen UNAIDS. Mae e’n gyn-aelod o Grŵp Cynghori Strategol y Cenhedloedd Unedig ar y defnydd o gyffuriau a HIV, Grŵp Cynghori Technegol y Comisiwn Rhyngwladol ar HIV a'r Gyfraith, a Grŵp Cyfeirio'r Cenhedloedd Unedig ar HIV a'r Defnydd o Gyffuriau Chwistrellu.
Mae ganddo MA mewn Cymdeithaseg (Prifysgol York, Toronto), LLM mewn Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol (Canolfan Iwerddon dros Hawliau Dynol, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway) a PhD yn y Gyfraith (Prifysgol Middlesex, y DU). Mae'n Gymrawd Gwadd yn y Ganolfan Hawliau Dynol, Prifysgol Essex.
Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Drug Control and Human Rights in International Law, gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2017. Ar hyn o bryd mae Rick yn golygu llyfr newydd, 'After the War on Drugs: Harm Reduction and Human Rights in Post-Prohibition Scenarios', i'w gyhoeddi gan Routledge yn 2023.