Trosolwg
Mae Sam yn addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig ar ddamcaniaeth a dulliau ymchwil o ran troseddeg, yn ogystal â modiwl ôl-raddedig ar ddiddymu cosbau.
Mae ei ymchwil yn archwilio'r modd y mae gwaith rhyw yn cael ei lywodraethu a'i reoleiddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyd-destun Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymddiddori mewn natur addasadwy a phŵer symbolaidd cysyniadau megis diogelu a bod yn agored i niwed, a sut defnyddir y rhain fel mathau o reolaeth gymdeithasol.
Mae Sam yn cynnal grŵp darllen ar gael gwared ar garchardai, ac ef yw cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Cymdeithasol yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.