Trosolwg
Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar niwed rhyweddol, yn enwedig cam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd.
Ers 2020, rwyf wedi arwain 15 prosiect ymchwil, gan ymdrin â phobl sy'n cyflawni cam-drin domestig, plant a phobl ifanc, dioddefwyr y credir eu bod yn 'risg uchel' ac yn fwy diweddar y croestoriad rhwng bywyd diweddarach, rhywedd, anabledd a hunaniaeth rywiol. (Gweler yr adran ymchwil am ddolenni).
Rwyf hefyd wedi cyd-gynhyrchu a gwerthuso ymyriad Realiti Rhithwir Through their eyes fel offeryn hyfforddiant i'r heddlu a darparwyr gwasanaeth eraill. Rwyf yn gweithio ar hyn gyda'm cydweithwyr Dr Helen Miles a Rebecca Zerk o'r Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth (gweler y ddolen isod)
Rwyf wedi cael cyllid gwerth £2.7M, gan amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys y Swyddfa Gartref; Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth Cymru; AHRC; OPAN; Comic Relief; UK Portfolio; Big Innovation; a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Rwyf wedi arwain Menter Dewis Choice yng Nghymru ers 2013. Mae hyn yn fodel a gynhyrchwyd ar y cyd sy'n cynnig cymorth dwys i oroeswyr hŷn o argyfwng i adfer.
Dewis yw'r astudiaeth hydredol fyd-eang gyntaf i ymgorffori 'profiadau byw' dioddefwyr-goroeswyr 60 oed ac yn hŷn. Mae'r data hyn yn creu adnoddau a gafodd eu hamlygu fel 'arfer da' mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar COVID-19 a Thrais ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd, Ewrop. Cyfrannodd tîm Dewis at nifer o ddogfennau ymgynghori ac arweiniad (gweler yr adran ymchwil am ragor o wybodaeth)
Rwyf hefyd wedi cael fy ngwahodd i fod yn rhan o nifer o adolygiadau o laddiadau domestig, ac rwyf wedi cyfrannu at ddatblygu ymarfer ar y cyd â Standing Together Against Domestic Violence (gweler y dolenni yn yr adran ymchwil)