Trosolwg
Uwch Ddarlithydd yw Sebastian Kitching sy’n addysgu ym meysydd Gweithrediadau a Rheoli Cadwyni Cyflenwi, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei brofiad o ddiwydiant yn cynnwys prosiectau sy'n ymwneud â gweithredu a gwerthuso’n barhaus systemau rheoli stocrestr awtomataidd yn y sector manwerthu. Treuliodd nifer o flynyddoedd hefyd yn gweithio yn Japan, gan ddatblygu diddordeb ym maes gweithrediadau gwasanaethau.
Mae ei ddiddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys ymchwilio i’r ffactorau sy'n cyfrannu at gynhyrchu gwastraff bwyd yn y sector siopau cyfleustra gan ddefnyddio modelu Dynameg System. Mae hefyd yn weithredol wrth ddefnyddio meddalwedd efelychu i wella profiad dysgu'r myfyriwr; integreiddio prosesau gweithrediadau drwy fodelu, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o systemau cymhleth.