Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a Chat GPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu? A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau diogelwch? Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau eraill yn cael eu hateb yng nghyfres 3 o "Archwilio Problemau Byd-eang" lle mae academyddion o Brifysgol Abertawe yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.
Yn y drydedd gyfres hon sy'n para am 11 bennod bydd academyddion yn archwilio pynciau amrywiol a phwysig megis amddiffyn ein hunain rhag cemegau sy'n achosi canser, gwella gofal iechyd i bobl awtistig ac ailfeddwl perthynas y gymdeithas â cheir. Hefyd yn y gyfres newydd bydd Dr Sam Blaxland yn dychwelyd, a fydd yn tywys gwrandawyr dros y misoedd nesaf drwy benodau sy'n cynnwys academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau,