Uchafbwyntiau Ein Hymchwil
- Ystyrir bod ein hamgylchedd ymchwil yn 100% ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n rhagorol yn rhyngwladol neu sy'n arwain y byd o ran ansawdd.
- Cafodd 100% o'n hamgylchedd ymchwil sgôr o yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n gynnydd o 12.5%.
- Ystyrir bod ansawdd ein hallbynnau ymchwil yn arwain y byd, yn rhagorol yn rhyngwladol, ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
- Cafodd 23.4% o'n hallbynnau ymchwil sgôr o yn arwain y byd
, sy'n gynnydd o 14.5%. - Ystyrir bod 80% o effaith ein hymchwil yn eithriadol a'i bod yn cael effaith eang iawn o ran ei chyrhaeddiad a'i harwyddocâd.
- Mae'r incwm ymchwil wedi cynyddu o gyfanswm o £1.6 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2014 i dros £7 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2021 – cynnydd o 375%.
- Rydym wedi cynyddu ein carfan o ymchwilwyr ôl-raddedig o 25 yn 2013-2014 i 68 yn 2019-2020, sy'n gynnydd o 172%.
“Trwy ddarparu rhagoriaeth yn ein hamgylchedd ymchwil, mae busnes a rheolaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae hyn yn amlwg trwy'r cynnydd sylweddol a wnaed gennym o ran yr allbynnau ymchwil yr ystyrir eu bod yn arwain y byd, a hefyd trwy'r twf yn ein hincwm ymchwil a nifer y graddau PhD a gwblheir.”
- Yr Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Rheolaeth ac Arweinydd Uned Asesu 17