Yn y bennod hon
Nid yw newid yn yr hinsawdd bellach yn rhywbeth y gallwn ni feddwl amdano fel problem yn y dyfodol neu bryder yn rhywle arall yn y byd - mae eisoes gyda ni a gellir ei ystyried yn her fyd-eang ein hoes. Mae ein sefyllfa bresennol yn ddiamau’n hynod bryderus, ond mae llawer iawn y gellir ei wneud i liniaru canlyniadau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, addasu i'r rhai hynny na ellir eu hosgoi, a gweithredu i sicrhau cymaint o adfer â phosib nawr ac ymhell i'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar bob lefel, o sefydliadau i unigolion, o'r byd-eang i'r lleol.
Yn y rhifyn hwn, mae’r Athro Karen Morrow a Dr Victoria Jenkins yn trafod yr hinsawdd fyd-eang a llywodraethu amgylcheddol a’r hyn y gall pobl a sefydliadau ei wneud i leihau canlyniadau newid yn yr hinsawdd ac addasu at hynny.
Mae'r Athro Karen Morrow yn meddu ar gadair mewn cyfraith amgylcheddola ac mae’n aelod o Grŵp Her 2035 Cymru Sero Net.
Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau damcaniaethol ac ymarferol cyfranogiad cyhoeddus mewn cyfraith a pholisi amgylcheddol a chynaliadwyedd yn ogystal ag ecoffeministiaeth, rhywedd a'r amgylchedd.
Mae gwaith presennol yr Athro Morrow yn canolbwyntio ar ymagweddau ecoffeministiaeth at heriau yn yr oes Anthroposen, gyda phwyslais penodol ar newid hinsawdd a llywodraethu hinsawdd byd-eang, a sut i gyflawni perthnasoedd rhwng pobl a'r amgylchedd sy'n wirioneddol gynaliadwy mewn byd sy'n newid mor gyflym drwy gael cynrychiolaeth effeithiol o leisiau ar y cyrion mewn cyfraith, polisi a phrosesau gwneud penderfyniadau o ran yr hinsawdd.
Mae Dr Victoria Jenkins yn Athro Cysylltiol yn y Gyfraith ac wedi bod yn cyhoeddi ymchwil i gyfraith amgylcheddol am dros 20 o flynyddoedd.
Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y gyfraith, polisi a llywodraethu o ran datblygu cynaliadwy, tirweddau a rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae gwaith Dr Jenkins yn canolbwyntio ar ymagweddau lleol a Chymreig i'r pryderon hyn ac mae hi ar hyn o bryd yn ystyried sut i ddatblygu system lywodraethu effeithiol ar gyfer rheoli mawndiroedd yn gynaliadwy, a fydd yn bwysig i lawer o wledydd, gan gynnwys Cymru, wrth gyfrannu at nodau newid yn yr hinsawdd.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.