Yn y bennod hon
Rydym yn gwybod o ymchwil i gludiant bod y rhan fwyaf o deithiau yn y DU am lai na phum milltir ag un person yn unig yn y cerbyd, felly sut gallwn annog pobl i ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio? Yn y bennod podlediad hon, mae Ian Walker, Athro Seicoleg Amgylcheddol, yn archwilio ffenomenon 'normadedd gyrru' (motor normativity). Dyma'r syniad sydd gan y rhan fwyaf o bobl bod ein hymddygiad cyffredinol a'n harferion o ran cludiant yn gywir. Pan fydd unigolion neu grwpiau'n ceisio newid pethau, er enghraifft, drwy annog pobl i yrru'n llai neu newid eu ffordd o deithio i ddulliau cludiant mwy egnïol a glanach, maent yn aml yn cael ymateb sy'n rhyfeddol o elyniaethus.
Mae ymchwil yr Athro Walker yn edrych ar ymddygiadau sy'n cael eu sbarduno’n awtomatig ac yn ddiymwybod gan yr amgylchedd mae unigolyn ynddo, yn benodol yng nghyd-destun arferion gyrru. Mae ei ddiddordeb yn y maes astudio hwn yn deillio o'i brofiad fel beiciwr.