Crynodeb o'r Newyddion

Person mewn labordy

Academyddion yn derbyn grant Horizon Europe gwerth €480,000 i gefnogi ymchwil

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn grant newydd gan Horizon Ewrop i roi'r genhedlaeth nesaf o asesiadau peryglon a risgiau cemegolion a deunyddiau newydd ar waith, gan leihau'r angen am brofi ar anifeiliaid wrth ddiogelu iechyd dynol.

Darllen mwy
Yr Athro Stuart Macdonald

Academydd o Abertawe wedi'i enwi'n un o gymrodyr yr Academy of Social Sciences

Mae'r Academy of Social Sciences wedi croesawu 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i'w chymrodoriaeth uchel ei bri – gan gynnwys yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Metel sgrap

Arbenigedd Abertawe wrth wraidd canolfan ymchwil newydd a gefnogir gan y CU

Bydd arbenigedd Abertawe mewn ailgylchu'n well drwy atgyfnerthu ansawdd metel sgrap wrth wraidd canolfan newydd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn ymchwilio i sut gallwn ailddefnyddio adnoddau amhrisiadwy – o fetelau i fwynau – yn ehangach.

Darllen mwy
Y Fonesig Jean Thomas, Canghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Ronan Lyons a'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor

Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am waith banc data o bwys byd-ean

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.

Darllen mwy
Morwellt

Gwyddonwyr yn arwain y ffordd i ddatblygu cadwraeth ac adnewyddu bywyd y môr

Mewn astudiaeth newydd, mae tîm rhyngwladol o academyddion wedi nodi'r cwestiynau pwysicaf y mae'n rhaid eu hateb er mwyn datblygu gwaith cadwraeth ac adfer dolydd morwellt yn Ewrop.

Darllen mwy
Pobl yn cwiltio

Prosiect cwiltiau arloesol yn dod â mamau newydd at ei gilydd i rannu profiadau

Mae prosiect unigryw dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n cofnodi ac yn rhannu teimladau cymhleth mamau newydd am fwydo eu babanod.
Mae profiadau amrywiol y mamau a gymerodd ran bellach wedi cael eu cofnodi ac maent yn rhan annatod o'r prosiect Cwiltiau Euogrwydd Mamol dan arweiniad Dr Sophia Komninou.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Lled-ddargludyddion

Lled-ddargludyddion – Curo Calon Technolegau Net Sero

Dan arweiniad yr Athro Paul Meredith, mae Prifysgol Abertawe, drwy ei sefydliad ymchwil ryngddisgyblaethol newydd, y ‘Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), yn helpu diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru i fynd i’r afael â’r heriau hyn a manteisio ar gyfleoedd y weledigaeth Sero Net.

Darllen mwy
Person mewn gefynnau

Mynd i'r afael ag allgáu digidol

Nod ymchwil Dr Gemma Morgan yw deall allgáu digidol ymysg y rhai hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol a'i effaith ar eu hymatal rhag troseddu, eu lles a'u cynhwysiant cymdeithasol.

Darllen mwy
Fersiwn 3d lliwgar o ymennydd

Deall dementia

Mae gwaith yr Athro Andrea Tales a'i thîm o Brifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar ddeall yn well beth yw effeithiau nam gwybyddol fasgwlaidd (dementia) a chlefyd Alzheimer’s ar weithrediadau yn yr ymennydd nad ydynt yn ymwneud â'r cof.

Darllen mwy

Ffocws Abertawe

Microsglodyn

'Addressing cybersecurity risks of self driving vehicles'

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae’r Athro Siraj Shaikh, Athro Diogelwch Systemau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn trafod datblygiad a dyfodol technoleg cerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain, y risgiau a'r buddion, a sut gall hyrwyddo safonau'r diwydiant helpu i feithrin ffydd y cyhoedd mewn technolegau awtonomaidd cymhleth.

Gwrandewch nawr
Menyw gyda phen ar liniau yn eistedd yn y tywyllwch

'Linking police and healthcare data could help better identify domestic abuse'

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae ymchwil newydd gan Natasha Kennedy ac Amrita Bandyopadhyay o Brifysgol Abertawe'n dangos y gallai cysylltu data'r heddlu a data gofal iechyd helpu i nodi cam-drin domestig yn well. 

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Guoqing Zhao

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Guoqing Zhao yn Ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau. Mae ei faes ymchwil yn cynnwys rheoli risgiau i gadwyni cyflenwi, gwytnwch cadwyni cyflenwi, a rheoli gwybodaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y diwydiant bwyd-amaeth.

Darganfod mwy
Alix Bukkfalvi-Cadotte

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Alix Bukkfalvi-Cadotte yn fyfyriwr PhD yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae ei hymchwil yn archwilio profiadau gofal mamolaeth pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.

Darganfod mwy
Logo CREW

Canolfan Ymchwil

Canolfan ymchwil i lên ac iaith Saesneg Cymru yw CREW. Ymysg y meysydd ymchwil mae cenedlaetholdeb, amlieithrwydd a chyfieithu, llenyddiaeth gymharol, astudiaethau ôl-drefedigaethol, ysgrifennu cwîyr, hanes diwylliannol, llenyddiaeth broletaraidd, astudiaethau anabledd ac astudiaethau canoloesol.

Darganfod mwy

Cydweithrediadau a Phartneriaethau Ymchwil

Ymwelwyr ag Oriel Science

Oriel Science dathlu prosiect arloesol ar y cyd ym maes Rhagnodi Cymdeithasol

Mae Oriel Science, canolfan arddangosiadau cyhoeddus arloesol Prifysgol Abertawe, wedi bod yn helpu cleifion ag anaf i'r ymennydd sy'n cael triniaeth adsefydlu i wella eu hiechyd a'u lles drwy ei phrosiect Rhagnodi Cymdeithasol cyntaf.

Darllen mwy
Tri dyn yn sefyll wrth ymyl paneli solar

Cydweithrediad Newydd i Gefnogi PV Solar Cynaliadwy, Wedi'i Gynhyrchu'n Lleol

Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol ar raddfa fwy.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.