Trosolwg o'r Cwrs
Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.
Mae Ffrangeg a Hanes, gyda blwyddyn dramor, yn archwilio hanes drwy bynciau sy'n cynnwys hanes menywod a rhyw(edd), hanes cymdeithasol Prydain fodern a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth. Byddwch chi hefyd yn astudio amrywiaeth gyfoethog iaith, diwylliant a ffilm Ffrangeg, hanes Ffrainc, cyfieithu ac addysgu iaith.
Mae astudio'r radd BA pedair blynedd hon yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.