Trosolwg o'r Cwrs
Mae Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg gyda Blwyddyn Dramor ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs cyffrous a heriol. Byddwch yn astudio canrifoedd o lenyddiaeth Saesneg ac yn dysgu am y diwylliant cyfoethog sy'n gwneud Ffrainc yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Cewch hefyd gyfle i fyw ac astudio neu weithio yn Ffrainc.
Mae cynnwys y cwrs yn amrywio o lenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys gweithiau'r Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif, modernrwydd a ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol, i'r iaith Ffrangeg, ffuglen, cyfieithu ac addysgu iaith. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o rôl Ffrainc yr 21ain ganrif yn Ewrop a'r byd ehangach.