Trosolwg o'r Cwrs
Archwiliwch hanes daearyddol a daearegol y Ddaear ac ymchwilio i'r prosesau sydd wedi llunio'r ddaear ers miliynau o flynyddoedd. Byddwch yn astudio pynciau fel peryglon naturiol, rhewlifeg a newid amgylcheddol er mwyn datblygu dealltwriaeth o sut mae dynolryw wedi achosi newid amgylcheddol.
Byddwch yn meithrin sgiliau mewn pynciau technegol a gwyddonol megis daeareg, gwyddor yr hinsawdd, rhewlifeg, fwlcanoleg a monitro newid amgylcheddol o loeren.
Mae ein BSc mewn Geowyddoniaeth Amgylcheddol sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) yn archwilio meysydd sy'n gorgyffwrdd â phynciau fel geoffiseg, hinsoddeg, meteoroleg a gwyddor y ddaear. Byddwch yn canolbwyntio ar ddadansoddi gwahanol amgylcheddau ffisegol yma yn y DU ac ar ein cyrsiau maes rhyngwladol, gan gynnwys amgylcheddau arfordirol, folcanig, ynysoedd a thectonig. Byddwch yn treulio wythnos yn yr Almaen yn eich trydedd flwyddyn, yn astudio amgylcheddau folcanig hynafol.
Bydd gennych fynediad i labordai arbenigol a chyfarpar maes i wneud gwaith prosiect, yn ogystal â'n 'llyfrgell' o gyfarpar maes lle gall myfyrwyr fenthyca dillad gwrth-ddŵr, esgidiau ac offer awyr agored.