Yr Her
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn troi eu trwynau wrth feddwl am therapi cynrhon ac mae'r stigma sy'n gysylltiedig â nhw yn atal pobl rhag elwa o'u defnydd therapiwtig. Ond, gallai cynrhon gradd glinigol droi wlser marwaidd yn glwyf iach a glân o fewn ychydig ddyddiau.
Y DULL
Mae'r Athro Yamni Nigam wedi ymroi i flynyddoedd o ymchwil i gynrhon meddyginiaethol, gan groesawu pob cyfle i chwalu'r stigma drwy annog cymunedau a sefydliadau i "Love a Maggot".