Yr Her
Mae Ffrainc a'r DU yn wynebu her poblogaeth sy'n heneiddio. Gan fod pobl hŷn yn byw'n hirach, mae angen inni ddarganfod atebion i'r galw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sgîl y newid demograffaidd hwn, yn enwedig o ran darparu tai addas. Gwnaeth Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, mewn cydweithrediad â sefydliadau ymchwil a sefydliadau'r llywodraeth yn Ffrainc, arwain astudiaeth ar y cyd ynghylch sut mae'r DU a Ffrainc yn ceisio rheoli'r heriau hyn, a pha wersi y gellir eu dysgu o safbwynt cymharol
Y Dull
Gwnaeth y prosiect gymharu tystiolaeth o'r DU ac o Ffrainc ynghylch mentrau polisi, dylunio tai a datblygiadau gwasanaeth sy'n ymwneud ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio. Roedd darparu addasiadau tai fel ffordd o alluogi pobl hŷn i fyw bywydau mwy annibynnol, wrth wraidd yr ymchwil.
Gan ganolbwyntio ar y DU, gwnaeth Dr Hillcoat-Nallétamby gasglu a dadansoddi data gan ddefnyddio ffynonellau data eilaidd a chyfweliadau ansoddol gwreiddiol â rhanddeiliaid allweddol a gwblhawyd fel rhan o'r astudiaeth. Darparodd y gwaith waelodlin ar gyfer dadansoddiad cymharol o'r cyd-destun yn Ffrainc.
Ar y cyfan, dangosodd y dadansoddiad fod y DU wedi bod yn gyflymach wrth gydnabod goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio o ran tai. Roedd y dystiolaeth o hyn yn cynnwys mentrau polisi sy'n anelu at ddatblygu a gwella egwyddorion dylunio tai, ar y cyd â gwasanaethau gwybodaeth sy'n arloesol ac yn hygyrch iawn, er mwyn gwella gwybodaeth pobl hŷn a'u hybu wrth wneud penderfyniadau am eu hopsiynau o ran byw yn annibynnol.
Yr Effaith
Defnyddiwyd yr astudiaeth yn Ffrainc er mwyn dylanwadu ar:
-
Bolisi llywodraeth Ffrainc ynghylch anghenion tai a byw yn annibynnol ar gyfer ei phoblogaeth sy'n heneiddio.
-
Diwygio deddfwriaethol i sicrhau gwaith gweithredu polisi (Bil Seneddol a chyfraith statudol) ac ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn i bobl hŷn allu elwa ar fynediad gwell at wybodaeth a chyngor ynghylch gwasanaethau byw'n annibynnol (e.e. addasiadau tai, budd-daliadau nawdd cymdeithasol, tai arbenigol).
Mae hyn wedi arwain at: