Lleihau anghydraddoldebau i bobl sy'n cael gwiriadau ar gyfer diabetes

Lleihau anghydraddoldebau i bobl sy'n cael gwiriadau ar gyfer diabetes

GP and patient

Yr Her

Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn cynyddu'n fyd-eang. Yn anffodus, mae pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol mewn mwy o berygl – hyd at bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes o'u cymharu â phobl wynion. Maent yn datblygu diabetes yn iau ac maent yn fwy agored i ddatblygu cymhlethdodau hirdymor sy'n gysylltiedig â diabetes. Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd cyn-ddiabetes yn fwy na dwywaith mwy cyffredin ymhlith grwpiau Du ac Asiaidd (22%) o'u cymharu â grwpiau Gwyn, Cymysg a grwpiau Lleiafrif ethnig eraill (10%).

Mae cymhlethdodau hirdymor diabetes yn niweidiol, yn cyfyngu ar fywyd ac yn ddrud i'w trin. I ganfod a thrin y cymhlethdodau hyn yn y camau cynnar, mae gan y GIG naw ffordd o brofi ac archwilio pobl sydd â diabetes. Mae'n annhebygol iawn bydd pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn cael yr archwiliadau hyn. Byddai dod o hyd i ffyrdd newydd o wella eu mynediad at yr archwiliadau hyn a'u hannog i gymryd rhan yn caniatáu trin a chanfod cymhlethdodau hirdymor megis dallineb, trychiadau a chlefyd yr arennau'n gynnar.

Y Dull

Mae CYMELL yn rhaglen addysg gymunedol gydweithredol i leihau anghydraddoldebau o ran nifer y bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yng Nghymru sy’n cael archwiliadau dilynol ar gyfer diabetes.

Mae arweinydd y prosiect, Dr Ashra Khanom, a'r tîm yn datblygu rhaglenni addysg ac atal diabetes cymunedol gan dargedu pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol. I gychwyn, cynhaliwyd adolygiad cwmpasu o'r llenyddiaeth bresennol yn y maes ymchwil dan sylw. Yna, cynhaliodd y tîm weithdai gyda phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol sydd â phrofiad byw o ddiabetes, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau, arweinwyr a gweithwyr cymuned ethnig, i gyd-ddylunio a datblygu'r ymyriad. Yn sgîl y gweithdai hyn, roedd y tîm yn gallu diffinio elfennau allweddol ymyriad cymunedol effeithiol i wella hygyrchedd a dealltwriaeth o archwiliadau dilynol diabetes a nodi canlyniadau pwysig.

DF-CARW: Gweithdai Cynyddu Ymwybyddiaeth o Archwiliadau Dilynol Diabetes

CYMELL logo

Datblygwyd fideo animeiddiedig byr i gefnogi cyflawni gwaith DF-CARW. Mae’r gweithdai a'r deunyddiau cymorth wedi cael eu treialu yn Abertawe a byddant yn cael eu treialu nawr yng Nghaerdydd, yn Wrecsam ac ym Mae Colwyn, sef ardaloedd sydd â chyfran uwch o bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol na'r cyfartaledd yng Nghymru.

Gofynnwyd i'r bobl a gymerodd ran yn rhaglen DF-CARW gwblhau holiadur, cymryd rhan mewn grwpiau ffocws a chwblhau arolwg dilynol 4 mis ar ôl rhaglen DF-CARW. Gwahoddir staff y GIG sy'n cyflwyno'r ymyriad, ynghyd ag arweinwyr cymunedol a gweithwyr cymorth, i gyfweliad grŵp i werthuso a gwella ymyriadau DF-CARW. Bydd tîm y prosiect yn ystyried dyluniad gwerthusiad economaidd yn y dyfodol ar gyfer treial llawn drwy archwilio data'r treialon a defnydd o'r adnoddau. 

Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac fe'i noddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB).

Yr Effaith

Nod y prosiect parhaus yw cyd-ddylunio a threialu rhaglen addysg gymunedol ar archwiliadau dilynol i'w chyflwyno gan nyrsys diabetes arbenigol, arweinwyr cymunedol a gweithwyr cymorth i wella llythrennedd iechyd diabetes a hygyrchedd archwiliadau dilynol diabetes ymhlith pobl sy'n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Y nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n cael archwiliadau dilynol ymhlith poblogaethau lle ceir prinder gwasanaethau. Yn y pen draw, pwrpas y prosiect yw gwella bywydau pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol yng Nghymru sy'n byw gyda diabetes.

Mae'r tîm yn cynnwys; Dr Ashra Khanom, Dr Diana Beljaars and Dr Gargi Naha, Daniel Holohan, Dr Rose Stewart, BCUHB, Dr Rebecca Louise Thomas, Dr Alison Porter, Dr Llinos Haf Spencer (University of South Wales), Dr Nicola O’Brien (Northumbria University), Yr Athro Sian Rees, Rafat Arshad-Roberts, BCUHB, Dr Shadan Roghani, Neath Port Talbot CVS, Yr Athro Alan Watkins. Thanuja Hettiarachchi, Almas Laesm, a Gayan Kodagodage, Daniel Holohan, Leanne Jenkins (Diabetes Cymru), Sujatha Thaladi (Mentor Ring), Helal Uddin (EYST),  Alice Botsyeo-Amedor (BAWSO)

CYMELL

Dr Ashra Khanom

Cwrdd â'r Arweinydd Ymchwil

Dr Ashra Khanom

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Health and Care Research Wales logo
Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.