Yr Her
Yn ystod dwy flynedd o'r pandemig, bu COVID-19 yn gyfrifol am dros 200,000 o farwolaethau yn y DU. Gall ymchwil ansoddol helpu i archwilio'r straeon sy'n gysylltiedig â'r anawsterau, yr heriau a'r dioddefaint y gall pandemig byd-eang eu hachosi, a darparu'r 'profiadau byw' sydd y tu ôl i farwolaeth, o safbwynt ffrindiau agos ac aelodau teulu.
Y Dull
Gan adeiladu ar waith prosiect Barn y Cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19 Prifysgol Abertawe (prosiect PVCOVID), mae'r astudiaeth hon yn ymdrechu i fwrw golwg ôl-weithredol ar agweddau'r cyhoedd tuag at bandemig COVID-19 yn y DU, gan ganolbwyntio ar straeon y rhai sydd wedi colli rhywun oherwydd COVID-19.
Bydd yr ymchwil ansoddol hon yn cofnodi, yn archwilio ac yn dadansoddi straeon pobl eu hunain am golled, profedigaeth a galar yn ystod pandemig COVID-19, gan hefyd archwilio eu myfyrdodau am yr ymateb i'r pandemig, y cymorth a gawsant - neu'r diffyg cymorth - a'r hyn y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol.
Drwy gyfuniad o grwpiau ffocws rhithwir, cyfweliadau rhithwir, arolwg testun agored ar-lein a dogfennau rhithwir eraill (e.e. dyddiaduron, cofnodion mewn dyddlyfrau, postiadau blog), bydd yr astudiaeth yn archwilio profiadau pobl o brofedigaeth mewn perthynas â COVID-19 yn ystod y pandemig.
Yr Effaith
Mae'r ymchwil hefyd wedi llywio polisi, dogfennau a phrosesau'r llywodraeth a rhai gwyddonol ymgynghorol yng Nghymru ac yn y DU, ac mae wedi cael ei chyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion academaidd. Gan adeiladu ar brosiect PVCOVID, bydd y prosiect Coronavoices yn ceisio cael effaith debyg, gan leisio gwirionedd pobl i bŵer.
Mae prosiect PVCOVID a'i dîm ymchwil wedi cael eu trafod neu eu dyfynnu mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys CNN, The Wall Street Journal, BBC Newsnight, BBC World Service, The Guardian, The Times, The Telegraph, The i, a'r New Scientist.
Wrth i'n cymdeithas geisio deall ac wrth i'r ymchwiliadau i COVID-19 barhau, mae ymchwil academaidd sy'n ceisio archwilio straeon y cyhoedd am y pandemig, a phrofiadau pobl o golled a'u myfyrdodau am y cymorth a gawsant neu'r diffyg cymorth, yn hanfodol.