Trosolwg
Cafodd Anita ei phenodi'n Arweinydd y Grŵp Pwnc Marchnata rhwng 2017 a 2022. Cwblhaodd ei PhD yn Ysgol Busnes Prifysgol Swydd Gaerloyw. Cyn ei rôl academaidd, cafodd Anita brofiad sylweddol o’r diwydiant ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat e.e. y diwydiant awyrennau, twristiaeth ac allforio yn Tsieina.
Mae hi'n frwd dros weithio ar y cyd gyda chydweithwyr sydd â diddordebau tebyg, yn rhyngddisgyblaethol neu'n drawsddisgyblaethol. Gan weithio gyda'r Athro Morgan et al., dyfarnwyd prosiect iddi gynnal Asesiad Effaith Twristiaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn a rhannodd o'i harbenigedd i gefnogi'r Cyngor yn y prosiect adeiladu gorsaf niwclear newydd, Wylfa Newydd (grant gwerth: £46,061.58, Prif Ymchwilydd ar y Cyd).
Prosiect arall, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Abertawe, (Pontio'r Bwlch: Escalator, BTGE090, gyda Dr Koenig-Lewis, Dr Xuan a Dr Probert, gwerth £7,190.60, CI) sy'n canolbwyntio ar ganfod rôl ymddygiad defnyddwyr wrth (ail-)lunio modelau busnes cyfleustodau dŵr y dyfodol o ganlyniad i effaith newid yn yr hinsawdd.
Enillodd un o'i phapurau wobr Papur Gorau y ‘Political Marketing Track Prize' a noddwyd gan Wiley yng nghynhadledd yr Academi Farchnata 2013 (gyda Dermody et al.).
Mae Anita yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ((SFHEA). Mae ei phrofiad addysgu a’i harweinyddiaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y gymuned.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant ymchwil bach BA/Leverhulme i Anita! Bydd ei phrosiect, ““Pam aros? Prynu Nawr Tâlu Wedyn”: Ymchwilio i Effaith Taliadau Di-arian wedi'u Gohirio ar Ddefnyddwyr Prydeinig Iau", yn rhedeg tan 2023. Mae'r prosiect mewn cydweithrediad â'r Dr. Philippa Ward, Prifysgol Swydd Gaerloyw.
Nod y prosiect yw datblygu dealltwriaeth o sut mae'r defnydd o 'Brynu nawr, talu wedyn' yn effeithio ar y defnyddiwr Prydeinig iau, yr hyn maent yn ei brynu, a'u lles.
Mae hi hefyd wedi ei hethol am Wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu a Dysgu Prifysgol Abertawe 2022. Mae hi'n ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth ac yn awyddus i gefnogi myfyrwyr a'u haddysg yn barhaus. Mae gallu eu gweld nhw'n rhagori yn broses sydd mor werth chweil!