Trosolwg
Mae Dr Adila Khan yn academydd proffesiynol medrus sy'n ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Enillodd ei PhD mewn Entrepreneuriaeth yn 2020 ac mae wedi ennill TAR, MBA ac MA mewn Llenyddiaeth Saesneg, ynghyd â BA mewn Seicoleg a Llenyddiaeth Saesneg.
Mae gan Adila brofiad helaeth o addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Dechreuodd ei thaith academaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2012, yna cafodd swyddi ym Mhrifysgol Bath Spa, Prifysgol Dinas Birmingham ac yna ddychwelyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae ymrwymiad Adila i ragoriaeth mewn addysgu i'w weld yn ei chyrhaeddiad diweddar o gael SFHEA (Rhagfyr 2023), tyst i'w hymroddiad at weithredu'r arferion addysgu gorau. Mae ei strategaethau addysgu myfyriol ac sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn ceisio gwella'r profiad dysgu ac addysgu cyffredinol.
Y tu hwnt i'r byd academaidd, mae Adila'n angerddol am entrepreneuriaeth sy'n amlwg wrth iddi sefydlu ei busnes cyntaf yn 19 oed, ac yna gyfres o fentrau entrepreneuraidd. Yn 2005, hi oedd sefydlydd a phrif swyddog gweithredu cwmni ymgynghoriaeth a hyfforddiant addysg am dros 12 mlynedd, gan weithredu mewn saith gwlad.
Mae taith broffesiynol Adila hefyd yn cynnwys profiad o farchnata rhyngwladol yn y sector addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys ei swydd ddiweddaraf sef Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Recriwtio a Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes BCU (2019-2021), lle bu'n cynnig arweinyddiaeth mewn rhyngwladoli, recriwtio a datblygu partneriaethau. Yn flaenorol bu'n Rheolwr Marchnata Rhyngwladol yng Ngholeg Sir Benfro, Cymru rhwng 1999 a 2005.
Mewn amryw o rolau marchnata rhyngwladol, mae Adila wedi datblygu strategaethau rhyngwladol, meithrin partneriaethau gwerthfawr (gan gynnwys cyd-fentrau a chydweithrediadau ymchwil), wedi creu cyllid ac incwm marchnata/busnes o gontractau ymgynghori. Mae hi hefyd wedi cynyddu nifer y myfyrwyr o dramor, ac wedi sefydlu swyddfeydd rhanbarthol ledled y byd, gan arwain at berfformiad gwell o brifysgolion blaenllaw o amgylch y byd.
Mae Adila'n angerddol dros wella bywydau cymunedau difreintiedig neu heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hi'n gwirfoddoli mewn digwyddiadau codi arian i elusen leol ac mae hi'n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Gofal Sir Benfro, sy'n elusen gofrestredig.