Trosolwg
Yr Athro Brian Garrod yw awdur wyth gwerslyfr a mwy na 50 o erthyglau ymchwil, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar farchnata a rheoli cyrchfannau twristiaeth. Mae'n gyd-brif olygydd Journal of Destination Marketing & Management ac yn eistedd ar Fwrdd Golygyddol saith cyfnodolyn academaidd arall. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys Sefydliad Twristiaeth y Byd (UNWTO), y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Cronfa Interreg IIc yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru, yr Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Mae'r Athro Garrod wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd mae'n croesawu ceisiadau ar gyfer myfyrwyr PhD ym meysydd marchnata a rheoli cyrchfannau, twristiaeth treftadaeth, ecodwristiaeth, twristiaeth gynaliadwy a marchnata diwylliannol.