Trosolwg
Mae Emily Bacon yn Gyswllt Ôl-ddoethurol a leolir yn yr Ysgol Reolaeth. Canolbwyntiodd ei hymchwil PhD ar yr amodau ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yn llwyddiannus o fewn ecosystemau arloesi. Mae wedi cyhoeddi ar lwyddiant trosglwyddo gwybodaeth o fewn partneriaethau ecosystem a pherthnasoedd cystadleuol-gydweithredol (“coopetitive”) mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol enwog gan ddefnyddio techneg dadansoddol fsQCA. Mae Emily wedi mynychu cynadleddau academaidd blaenllaw i ledaenu ei hymchwil. Derbyniodd ei chyflwyniad diweddar i gynhadledd INEKA (2019) wobr ar gyfer Rhagolygon Technolegol a Newid Cymdeithasol. Gyda chefndir ym maes addysgu, mae hi ar hyn o bryd yn dysgu yn yr Ysgol Reolaeth ar lefel Israddedig a gradd Meistr.