Trosolwg
Mae Frederic Boy (PhD) yn wyddonydd amlddisgyblaethol (Gwyddor Data, Seicoleg, Niwrowyddoniaeth) a addysgwyd ym Mhrifysgol Grenoble (BSc, MSc), Prifysgol Caeredin (MSc) a'r CNRS (PhD). Yn ystod ei hyfforddiant ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), sydd gyda’r gorau yn y byd, cafodd ei ariannu gan y Wellcome Trust a rhan o'r tîm a ddatblygodd un o'r technegau cyntaf i ddelweddu cemeg swyddogaethol yn yr ymennydd dynol byw. Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2012, datblygodd tîm Fred yr agweddau cymhwysol ar ei ymchwil, a gweithiodd ar sut y gall rhoi ysgogiad trydanol gwan i'r ymennydd fod yn driniaeth ategol effeithlon ar gyfer cyflyrau meddygol amrywiol (megis iselder). Yn 2017, penderfynodd Frederic ymuno â'r Ysgol Reolaeth a rhoi ar waith ei sgiliau dadansoddi a chodio yn epidemioleg digidol mabwysiadu technoleg.