Trosolwg
Mae Dr Guoqing Zhao yn Ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau. Mae ymchwil Guoqing yn canolbwyntio ar feysydd rheoli risg mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi, gwytnwch y gadwyn gyflenwi, rheoli gwybodaeth a thechnolegau diwydiant 4.0 a'r goblygiadau cysylltiedig o ran y gadwyn gyflenwi. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion o fri gan gynnwys Computers in Industry, IEEE Transactions on Engineering Management, International Journal of Production Research, Production Planning & Control, International Journal of Entrepreneurial & Behavior Research, International Journal of Hospitality Management, International Food and Agribusiness Management Review, ymhlith eraill.
Mae Dr Guoqing wedi derbyn gwobrau am ddyfyniadau niferus, gwobr presenoldeb mewn cynadleddau, grant Micro-Media, gwobr Llywodraeth Tsieina a gwobr Papur Gorau.
Ar hyn o bryd, mae Dr Guoqing yn gweithredu fel cadeirydd llwybr Symposiwm Rhyngwladol IEEE ar Dechnoleg a Chymdeithas (ISTAS23), Llwybr 8: Systemau Deallus a Chadwyni Cyflenwi ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a phwyllgor rhaglenni’r Gynhadledd Ryngwladol ar Dechnoleg Systemau Cymorth Penderfyniadau (2023)