Trosolwg
Dechreuodd Kate weithio yn yr Ysgol Reolaeth yn 2014. Cyn ymgymryd â rôl darlithydd, bu Kate yn gweithio yn y sector preifat a chyhoeddus, yn cynnal ymchwil i'r farchnad ac ymchwil gymdeithasol ar ran Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn ogystal ag i fusnesau bach a mawr.
Mae ei hymchwil mwy diweddar wedi archwilio ymgysylltiad ac emosiynau yng nghyd-destun marchnata drwy brofiadau. Mae diddordebau ymchwil penodol yn perthyn i farchnata bwyd lleol, a datblygu llwybrau bwyd lleol. Ar hyn o bryd mae Kate yn cynnal ymchwil i reoli digwyddiadau ar ran awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro. Yn ogystal, mae hi'n cynnal ymchwil i’r broses owerthuso cynlluniau rheoli twristiaeth.
Ynghyd ag ymchwil twristiaeth a marchnata, mae gan Kate ddiddordeb hefyd mewn addysgeg a gwella dysgu myfyrwyr. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi archwilio defnydd e-lyfrau rhyngweithiol i gefnogi dysgu, a rôl asesu i gymell myfyrwyr a gwella eu perfformiad.
Ers ymuno â'r Ysgol Reolaeth, mae Kate wedi dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig ym maes marchnata. Mae ei diddordebau addysgu penodol ym maes ymchwil marchnata a dulliau meintiol o ddadansoddi data.