Mae Paul wedi dysgu ym myd addysg uwch am 25 mlynedd ac mae’r cyfnod hwn yn cynnwys darparu sesiynau ar bob lefel o Ddoethur i’r Diploma Cenedlaethol Uwch. Mae ei brif ffocws ar gyfer addysgu am fwyafrif y cyfnod hwn wedi bod ar y lefel ôl-raddedig a blwyddyn olaf y lefel israddedig.
Mae ei addysgu wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyflwyno gan gynnwys darlithoedd mawr ynghyd â dosbarthiadau tiwtorial llai. Yn ogystal â strwythur traddodiadol dosbarthiadau ar lefel ôl-raddedig ac israddedig, mae Paul yn brofiadol wrth ddarparu dosbarthiadau sy’n amrywio o diwtorialau meistr 3-awr i ddarparu blociau dros y penwythnos. Mae’r sesiynau hirach wedi bod yn gyfleoedd ardderchog i ddatblygu arddull mwy anffurfiol sy’n hwyluso gweithgareddau sy’n gwahanu’r dosbarth er mwyn galluogi’r myfyrwyr i ystyried y themâu dan sylw. Mae rheolaeth Paul o’r dosbarth yn hanfodol wrth gynnal egni’r myfyrwyr a rhoi strwythur sy’n rhoi’r cyfle iddynt weithio mewn grwpiau. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr nad ydynt yn gyfforddus yn siarad o flaen y dosbarth i gyfrannu at y trafodaethau sydd wedyn yn cael dylanwad wrth grynhoi prif bwyntiau’r gweithgaredd.
Mae rhan fwyaf o addysgu Paul wedi bod i gohort cymysg o fyfyrwyr o’r wlad hon a rhai rhyngwladol ac mae hyn wedi bod yn werthfawr wrth feithrin ymwybyddiaeth o arddulliau addysgu ac felly wella sgiliau addysgu. Mae ei ddefnydd o weithgareddau er mwyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau yn ffordd effeithiol i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng ail iaith deimlo’n fwy cyfforddus wrth ymgysylltu â’r sesiwn. Dyma’r achos gyda myfyrwyr o Tsieina yn enwedig, lle mae’r arddull ddysgu yn dra gwahanol i’w profiad yn y DU.
Ochr yn ochr â’r ddarpariaeth ar y campws, mae profiad addysgu Paul yn cynnwys ystod o fodiwlau dramor, gan gynnwys:
- Modiwlau mewn strategaeth ar y cwrs MBA a gyflwynid yn Bahrain am nifer o flynyddoedd
- 2 wythnos o addysgu yn Tsieina fel rhan o berthynas rhwng Ysgol Fusnes USW a SUST yn Suzhou.
- Modiwlau MSc mewn Rheoli yn yr Almaen ac yn Romania
- Modiwlau blwyddyn olaf mewn strategaeth yn Hong Kong.