Trosolwg
Mae Dr Simon B. Brooks yn Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Ef yw Cyfarwyddwr Rhaglen y rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes, sy’n cael ei lansio ym mis Ionawr 2021.
Mae Simon yn aelod o Gyngor Academi Rheolaeth Prydain, a chyn hynny bu’n cadeirio’r grŵp Busnes Cynaliadwy a Chyfrifol yn yr academi. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol Cymru.
Cadeiriodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Mentora rhwng Busnesau Cynulliad Cymru ac roedd yn un o sylfaenwyr Cyd-bwyllgor Moeseg Heddlu De Cymru.
Mae ei arbenigedd addysgu ym meysydd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a strategaeth, yn enwedig lle mae’r pynciau hyn yn gorgyffwrdd. Yn yr un modd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a Chreu Gwerth a Rennir ynghyd ag Ystwythder Strategol. Ar hyn o bryd, mae ynghlwm wrth ymchwil sy’n cymhwyso Ystwythder Strategol i Ofal Iechyd ar sail Gwerthoedd yn y DU.
Gan adeiladu ar brofiad blaenorol helaeth yn y sector preifat ac Addysg Uwch, mae Simon wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau arwain uwch ers cyrraedd Abertawe ym mis Gorffennaf 2013. Mae’r rhain yn cynnwys Pennaeth yr Adran Marchnata, Busnes Rhyngwladol a Strategaeth, Deon Cyswllt Ymchwil Ôl-raddedig, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, Arweinydd Academaidd ar Dderbyniadau a chadeirydd Pwyllgor Menter ac Arloesi’r ysgol.