Grantiau’r British Council i Gefnogi Gwelliannau mewn Modelau Ariannu a Chynaliadwyedd yn Sector Addysg Uwch Nigeria 2018 – 2019,
gyda’r Athro Paul Jones, Dr Louisa Huxtable-Thomas, Dr Gareth Davies, Dr Roderick Thomas ac Alan Price; £10,000
Cefndir
Enillodd partneriaeth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Olabisi Onabanjo Grant y British Council ar gyfer model ariannu entrepreneuraidd cynaliadwy yn Sefydliadau Addysg Uwch Nigeria. Mae ymdrechion y Brifysgol ym maes ymchwil cydweithredol yn esgor ar y canlyniadau dymunol, o ystyried cymeradwyo grant cychwynnol yn ddiweddar i Brifysgol Olabisi Onabanjo a Phrifysgol Abertawe, y DU, gan y British Council. Cydnabu’r British Council yn ffurfiol fod cynnig cydweithredol y Brifysgol gyda Phrifysgol Abertawe wedi’i farnu “y gorau ymhlith nifer sylweddol o geisiadau o ansawdd uchel a dderbyniwyd.” Nododd y memo ymhellach “ar ôl proses ddethol drylwyr a gwerthusiad o’r ymatebion, roedd y British Council yn falch o hysbysu Prifysgol Olabisi Onabanjo a Phrifysgol Abertawe, y DU, eu bod wedi ennill y Grant i Gefnogi gwelliannau mewn Modelau Ariannu a Chynaliadwyedd yn Addysg Uwch Nigeria”. Dyfarnwyd grant cychwynnol o £10,000 gan y British Council.
Nod ac Amcanion
Nod a theitl prosiect partneriaeth Prifysgol Olabisi Onabanjo a Phrifysgol Abertawe oedd: “Attaining New and Improved Entrepreneurial Sustainable Funding Models Through Study Visit and Capacity Building Programme with Swansea University Entrepreneurship Team”.
Yn benodol, yr amcanion oedd gwneud y canlynol:
- Adolygiad o’r fframweithiau ariannu presennol ym Mhrifysgol Olabisi Onabanjo.
- Cefnogi’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth ac arferion gorau wrth ddatblygu entrepreneuriaeth.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu cydweithrediadau traws-sefydliadol a thwf modelau ariannu entrepreneuraidd mwy cynaliadwy yn ogystal â deilliannau graddedigion.