Trosolwg
Dechreuodd Will Fleming ei yrfa ym maes marchnata yng nghanol yr 1980au, gan weithio i ddechrau ym maes Ymchwil a Chynllunio Marchnata i Nwy Prydain yn yr Alban. Symudodd i Gymru i fod yn Rheolwr Masnachol Clwb Rygbi Castell-nedd, lle llwyddodd i sicrhau noddwr cyntaf y clwb a’r cit. Symudodd ymlaen i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe cyn newid cyfeiriad i'r diwydiant bragu gan ddod yn Rheolwr Gwasanaethau Marchnata yn Crown Buckley ac yna'n Rheolwr Marchnata Masnach Rydd yn S.A. Brain. yng Nghaerdydd. O'r fan honno daeth i mewn i'r byd academaidd fel Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata, a Chyfarwyddwr Cwrs ar gyfer cymwysterau proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).