"Mae cymaint o ymchwil i awtistiaeth wedi cael ei chynnal heb fewnbwn uniongyrchol gan y gymuned awtistiaeth; yn nodweddiadol, mae wedi cynnwys rhieni plant awtistig a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl awtistig. Mae ymchwil dan arweiniad pobl awtistig a'r gymuned yn hanfodol wrth nodi'r hyn sydd wir o bwys i'n cymuned, lle mae ein cryfderau, a lle mae rhwystrau cymdeithasol yn ein hanalluogi fwyaf. Ar y dechrau, cysylltais i â Dr Grant (Prifysgol Abertawe) ar ôl darllen gwaith roeddent yn ei ledaenu ar-lein a gwnaethom ddechrau cydweithio ar brosiectau i ymchwilio i brofiadau pobl awtistig o fwydo babanod. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil sy'n dangos tystiolaeth o'r meysydd rydym yn eu blaenoriaethu ar gyfer eiriolaeth yn golygu y gallwn greu newid yn gyflymach gan wybod bod yr ymchwil wedi'i dylunio'n gymhwysol ac yn gydweithredol, gan ganolbwyntio ar faterion sy'n bwysig i'r gymuned awtistiaeth. O ganlyniad i weithio gyda Phrifysgol Abertawe, a'm cyfranogiad yn yr adolygiad systematig o brofiadau'r mamau'r awtistig o fwydo babanod, gwnaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru gysylltu â mi i recordio fideo ar gyfer ei fodiwl hyfforddiant ar-lein i weithwyr gofal iechyd. Yn fy marn i, mae hi wedi bod yn hyfryd gweithio gyda'r tîm a gobeithio y bydd modd i ni gydweithio ar sawl prosiect yn y dyfodol."
Kathryn Williams, Autism UK