"RYDYM YN FALCH IAWN O FOD YN GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â'R ATHRO DYMOND A PHRIFYSGOL ABERTAWE MEWN CYFRES O BROSIECTAU SY'N CEISIO DEALL EFFAITH GAMBLO PROBLEMATIG YN Y GYMUNED FILWROL. HYD YN HYN MAE BWLCH WEDI BOD YN EIN GWYBODAETH AM Y MATERION HYN AC MAE'R GWAITH SY'N CAEL EI WNEUD YN HELPU I LENWI'R BWLCH HWN, GAN HEFYD DROSI CANFYDDIADAU I DDATBLYGU YMYRIADAU NEWYDD I HELPU I FYND I'R AFAEL Â GAMBLO PROBLEMATIG."
YR ATHRO DOMINIC MURPHY, PENNAETH YMCHWIL, LLYWYDD CYMDEITHAS TRAWMA SEICOLEGOL Y DU
"MAE'R FORCES IN MIND TRUST YN FALCH O ALLU DYRANNU DAU DDYFARNIAD YMCHWIL I BRIFYSGOL ABERTAWE AR GYFER ASTUDIAETHAU O'R ENW, "GAMBLING BEHAVIOUR AMONG POST-NATIONAL SERVICE VETERANS: PRELIMINARY: EVIDENCE FROM THE 2007 ADULT PSYCHIATRIC MORBIDITY SURVEY, ENGLAND”, A “GAMBLING PARTICIPATION, FINANCIAL MANAGEMENT, AND HEALTHCARE COSTS”. BU'R CANLYNIADAU'N TYNNU SYLW AT NIFER FAWR YR ACHOSION O GAMBLO PROBLEMATIG YMHLITH SAMPL O GYN-FILWYR Y DU, A BU'N DANGOS BOD ANGEN GWNEUD MWY I HELPU CYN-FILWYR I GEISIO A CHAEL CYMORTH AR GYFER EU GAMBLO PROBLEMATIG. NODODD Y CANFYDDIADAU HEFYD PA GRWPIAU PENODOL O GYN-FILWYR SY'N FWY AGORED I DDATBLYGU GAMBLO PROBLEMATIG, GAN ARWAIN AT ARGYMHELLIAD I'R WEINYDDIAETH AMDDIFFYN I WEITHREDU SGRINIO RHEOLAIDD A CHYMORTH WEDI'I DARGEDU ER BUDD Y GRŴP HWN. DYMA'R UNION FATH O WAITH MAE FIMT YN DIBYNNU ARNO I HELPU I LYWIO EIN RHANDDEILIAID ALLWEDDOL, O'R WEINYDDIAETH AMDDIFFYN A'R SWYDDFA MATERION CYN-FILWYR I DDARPARWYR GWASANAETHAU, A LLUNWYR POLISI YN NHŶ'R ARGLWYDDI A THŶ'R CYFFREDIN."
KIRSTEEN WALLER, RHEOLWR RHAGLEN IECHYD – FORCES IN MIND TRUST
"ROEDDEM YN FALCH O WEITHIO GYDA PHRIFYSGOL ABERTAWE AR DDARN PWYSIG O YMCHWIL SY'N ARCHWILIO GAMBLO A LLES YN Y LLU AWYR BRENHINOL. HON OEDD YR ASTUDIAETH GYNTAF, A'R MWYAF, O'I BATH I BENNU AMLDER A DIFRIFOLDEB PROBLEMAU GAMBLO YNG NGHYMUNED LLUOEDD ARFOG Y DU. MAE WEDI RHOI TYSTIOLAETH I NI NAD OEDD WEDI BODOLI O'R BLAEN, AC MAE WEDI ARWAIN AT DDEALLTWRIAETH BWYSIG SYDD WEDI CYNYDDU YMWYBYDDIAETH, GAN GYNNWYS CYNNAL YMGYRCH GYDA'R LLU AWYR BRENHINOL".
ALISON WYMAN, Y LLU AWYR BRENHINOL