Yr Her
Mae lymffoedema yn gyflwr (cronig) hirdymor sy'n achosi ymchwyddo ym meinweoedd y corff. Mae lymffoedema yn effeithio ar dros 200,000 o bobl yn y DU, a thua 2 o bob 10 person sy'n dioddef o ganser y fron a 5 o bob 10 person sydd â chanser y fylfa ledled y byd.
Mae cleifion â lymffoedema mewn llawer mwy o berygl o ffurfio clwyf. Gall hyn ddigwydd yn sgîl heintio, casglu lleithder, a heintio ffyngaidd ym mhlygion y croen, yn ogystal â thrawma. Felly, mae gofalu am y croen a chlwyfau'n dda a chydymffurfio â chywasgu i gyd yn ffactorau pwysig wrth leihau'r risg o ddatblygu rhagor o gymhlethdodau.
Gwnaeth ein hymchwil adeiladu ar ymchwil flaenorol gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe, a dangosodd fod clwyfau'n creu baich economaidd sylweddol i'r GIG a bod clwyfau cronig sy'n gysylltiedig â lymffoedema yn cyfrannu'n fawr at y broblem.
Y Dull
Gwnaeth Rhwydwaith Lymffoedema Cymru gysylltu â ni i weithio ar ddadansoddiad economaidd o'r gwasanaeth lymffoedema, gan gynnwys y ddarpariaeth addysg leol newydd (OGEP). Datblygwyd hon fel model addysg gymunedol gan ddefnyddio cymwysiadau rhagnodi fideo a rhaglen hyfforddi addysgwyr er mwyn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yn y gymuned a chleifion wrth reoli oedema cronig a gofalu amdano.
Defnyddiodd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru ein data er mwyn lobïo am £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal gwasanaeth newydd ledled Cymru a oedd yn cynnwys ehangu rhaglen yr OGEP a 'Llwybr y Goes Wlyb'. Mae 'Llwybr y Goes Wlyb' yn ddull a ddeilliodd o'r gwaith o gyflwyno rhaglen yr OGEP.
Ers hynny, mae ein canfyddiadau wedi dangos arbedion amcangyfrifedig o hyd at £24,460,000 y flwyddyn gan y gwasanaeth newydd. Roeddem yn gallu profi bod ymagwedd rhaglen yr OGEP yn arwain at arbedion o ran costau uniongyrchol gyda:
- nyrsys ardal yn ymweld â chartrefi'n llai aml (gostyngiad o 53%), a arweiniodd at gyflwyno'r gwasanaeth yn fwy effeithiol o ran y gost,
- gwahaniaeth gwerth 63% o ran costau'r rhwymynnau.
Yr Effaith
Defnyddiodd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru y dystiolaeth o'r ymchwil i lobïo adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn llwyddiannus i ariannu ymlediad Llwybr y Goes Wlyb ledled Cymru.
Mae ein hymchwil wedi rhoi amcangyfrifon cywir i Lywodraeth Cymru a chlinigwyr yn seiliedig ar dystiolaeth wreiddiol o faich economaidd lymffoedema. Hefyd, rydym wedi darparu tystiolaeth o'r arbedion cost sydd wedi deillio o ymagweddau mwy effeithlon at asesu a rheoli lymffoedema mewn cleifion sy'n derbyn gofal cynradd ac eilaidd.
Mae ein hymchwil wedi chwarae rhan bwysig mewn
- newidiadau polisi ar sail tystiolaeth,
- darparu tystiolaeth ar gyfer gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.