Trosolwg
Mae Louisa yn Athro yn yr Ysgol Reolaeth ac yn arwain ar ymgysylltu ac effaith, yn ogystal â chydlynu ein darpariaeth Addysg Weithredol. Hi hefyd yw arweinydd Menter, Partneriaethau ac Arloesi Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Gan gyfuno damcaniaethau a gwybodaeth empirig a geir o feysydd busnes, gwyddor gymdeithasol, addysg a seicoleg, mae diddordebau ymchwil Louisa yn ymwneud â sut mae ymddygiadau pobl, naill ai fel arweinwyr, entrepreneuriaid neu lunwyr polisi, yn dylanwadu ar les economaidd a chymdeithasol. Felly mae ganddi ddiddordeb brwd yng nghysyniadau tegwch, cydraddoldeb a rôl amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle. Cafodd ei phenodi'n gyd-gadeirydd grŵp Mary Williams y Brifysgol yn 2022.
Bu Louisa yn fiolegydd amgylcheddol yn wreiddiol, a chafodd yrfa gynnar amrywiol yn cwmpasu gwaith mewn bioamrywiaeth, ymgynghori amgylcheddol, llunio polisïau ar lefel ranbarthol a llywodraeth leol yn ogystal â chymorth i fusnesau a deori busnesau. Daeth ymchwil ddoethurol Louisa â'r holl wybodaeth flaenorol hon ynghyd a nododd ffyrdd y gall busnesau gyfrannu’n llwyddiannus at lunio polisïau amgylcheddol. Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2009, symudodd diddordeb ymchwil Louisa fwyfwy tuag at fusnes a rheolaeth, yn hytrach na pholisi amgylcheddol, ond bob amser ochr yn ochr â phrosiectau ymarferol a weithiodd yn uniongyrchol i gynorthwyo economi Cymru. Mae Louisa wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi busnesau drwy brosiectau fel deori, arloesi a masnacheiddio yn ogystal â chyfnod cynnar ymchwil a datblygu. Heb gyfyngu ei hun i faes entrepreneuriaeth yn unig, mae Louisa hefyd wedi gweithio gydag academyddion mewn meysydd mor amrywiol â gofal iechyd, e-farchnata, addysg, ynni carbon isel, systemau gwybodaeth, gweithgynhyrchu a thwristiaeth. Yn ddiweddaraf, mae wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yng Ngweinyddiaeth Datblygu Entrepreneuriaid a Chwmnïau Cydweithredol Malaysia gan ysgogi masnach ar draws ffiniau a pherthnasoedd rhyngwladol.