Awdur a pherfformiwr barddoniaeth ar gyfer oedolion a phlant yw Alex Wharton, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022, Gwobrau Llyfrau The North Somerset Teacher, Gwobrau Llyfrau Laugh Out Loud Book Awards ac fe'i henwyd yn llyfr a argymhellir Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Mae ei lyfrau wedi'u cyhoeddi'n eang yn y sector ac mae wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llenyddiaeth Prydain, Llyfrgelloedd Cymru a nifer o ysgolion, ymddiriedolaethau a gwyliau gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin.
Yn 2021 comisiynodd Gŵyl y Gelli Alex i greu cerdd gyda phlant a fyddai'n cael ei darllen i'w Huchelder Brenhinol y Frenhines Gydweddog mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Bydd ail gasgliad Alex o gerddi, Red Sky At Night: A Poet's Delight yn cael ei gyhoeddi gan Gwasg Firefly yn 2024.
Dewiswyd Alex yn Fardd Plant Cymru 2023-2025