Hannah Gold photo

Bu Hannah Gold yn gweithio yn y diwydiannau ffilm a chylchgronau cyn cymryd amser i olrhain ei breuddwydion ysgrifennu. The Last Bear, yw ei nofel gradd ganol gyntaf a ddaeth yn glasur ac yn llyfr a werthodd yn arbennig o dda yn rhyngwladol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2021. Mae wedi ennill Gwobr Blue Peter am y Stori Orau, Gwobr Llyfr Plant Waterstones i Ddarllenwyr Iau a Llyfr Plant Cyffredinol y Flwyddyn. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y Llyfr Plant Gorau yng Ngwobrau Llyfrau Prydain, cafodd ei enwebu ar gyfer Medal Carnegie CILIP yn ogystal â bod yn Llyfr Plant yr Wythnos gan The Sunday Times. The Lost Whale yw ail nofel gradd ganol Hannah sy'n adrodd stori anhygoel am y berthynas rhwng bachgen a morfil a'r cyfeillgarwch sy'n rhyddhau'r ddau. Enillodd Wobr Ysgrifennu am Deithio Stanford Travel ar gyfer Llyfr y Flwyddyn i Blant yn 2023 a phenodwyd Hannah yn llysgennad swyddogol y Gymdeithas Gwarchod Morfilod a Dolffiniaid. Bydd nofel newydd Hannah, y mae aros mawr amdano, Finding Bear, sef dilyniant i nofel wych gyntaf Hannah, yn gweld April a Bear yn dod ynghyd mewn antur fythgofiadwy, a gyhoeddir ar 28 Medi 2023. Caiff yr holl nofelau eu darlunio gan yr artist enwog Levi Pinfold.

Hannah Gold - The Last Bear

'The Last Bear' gan Hannah Gold

Dychmygwch wneud ffrindiau gydag arth wen... Mae The Last Bear yn berffaith i ddarllenwyr 8+, gyda darluniau hyfryd gan Levi Pinfold – enillydd Medal Kate Greenaway a darlunydd cloriau 20 mlwyddiant llyfrau Harry Potter.

ENILLYDD GWOBR LLYFR BLUE PETER 2022
ENILLYDD GWOBR LLYFR PLANT WATERSTONES 2022
RHESTR FER LLYFR FFUGLEN PLANT Y FLWYDDYN YNG NGWOBRAU LLYFRAU PRYDAIN 2022
RHESTR FER GWOBRAU LLYFRAU INDIE 2022

“Mae hon yn nofel gyntaf bwysig, pwysig i ni, i eirth gwynion, i’r blaned. Mae’n hynod o deimladwy, wedi’i hadrodd yn hyfryd, yn fythgofiadwy.” Michael Morpurgo.

Does dim eirth gwynion ar ôl ar Ynys Arth. O leiaf, dyna mae tad April yn ei ddweud wrthi pan maen nhw’n treulio chwe mis ar yr ynys anghysbell hon yn yr Arctig wrth iddo wneud gwaith ymchwil gwyddonol. Ond un noson o haf diderfyn, mae April yn cyfarfod un. Mae’n newynog, yn unig ac yn bell o’i gartref. Yn benderfynol o’i achub, mae April yn dechrau ar daith bwysicaf ei bywyd…

Bydd y stori deimladwy hon yn cipio calonnau plant ledled y byd ac yn dangos iddyn nhw nad oes neb yn rhy ifanc a rhy ddibwys i wneud gwahaniaeth. Mae The Last Bear yn ddathliad o’r cariad rhwng plentyn ac anifail, yn gri dros ddyfodol y byd ac yn antur gyfareddol gyda chalon mor fawr â chalon arth.

Hannah Gold - Finding Bear

'Finding Bear' gan Hannah Gold

Hannah Gold - The Lost Whale

'The Lost Whale' gan Hannah Gold

Yr ail nofel swynol gan awdur The Last Bear: llyfr clawr caled cyntaf yr awdur a fu’n llwyddiant ysgubol yn 2021, enillydd Llyfr i Blant yr Wythnos The Times, enillydd Gwobr Llyfr i Blant Waterstones ac enillydd Gwobrau Llyfrau Blue Peter.

‘An irresistible ocean-loving yarn’ The Times

Enillydd Gwobr Edward Stanford am Lyfr Teithio i Blant y Flwyddyn 2023

Ar restr fer Gwobr BAMB am Ffuglen Plant 2023 a ddewisir gan Werthwyr Llyfrau Annibynnol

GALLAI EU CYFEILLGARWCH EU RHYDDHAU ...

Mae Rio wedi cael ei anfon i fyw gyda mam-gu prin mae’n ei hadnabod, tra mae ei fam yn yr ysbyty.  Y cwbl sydd ei eisiau ar Rio yw bod ei fam yn gwella fel y gall ddychwelyd adref. Ond mae popeth yn newid wrth iddo ymuno â thaith gwylio morfilod a chwrdd a White Beak, cawr addfwyn y môr.  Mae cysylltiad yn cael ei feithrin rhwng Rio a’r morfil ar unwaith ac, am y tro cyntaf mewn amser hir, mae’n teimlo gwreichionyn o obaith. Yna aiff White Beak ar goll ac efallai Rio yw’r unig berson sy’n gallu helpu.

All Rio dynnu ar eu cysylltiad arbennig i rywsut ddod o hyd i’w forfil a’i achub ...