Liz Hyder photo

Mae Liz Hyder wedi bod yn creu straeon cyhyd y gall hi gofio. Yn 2018, enillodd Wobr Awdur Newydd Moniack Mhor a'r flwyddyn ganlynol enillodd Bearmouth, sef ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Waterstones i Lyfr Plant, Wobr Branford Boase, a chafodd y nofel ei dewis yn Llyfr Plant y Flwyddyn gan The Times.Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i oedolion, sef The Gifts, yn 2022 a chafodd y llyfr The Illusions ei gyhoeddi ym mis Mehefin eleni. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar nofel newydd i oedolion ifanc, wedi'i gosod yn Sir Benfro. Mae hi'n dod o Lundain yn wreiddiol ac yn byw yn Sir Amwythig ers dros ddegawd.

Liz Hyder - Bearmouth

'Bearmouth' gan Liz Hyder

Enillydd Gwobr Ffuglen i Blant Hŷn Waterstones 2020

Mae bywyd yn Bearmouth yn un o lafur caled, gyda’r byd heulog uwchben y lofa yn ddim mwy nag atgof. Yn y bywyd nesaf y daw’r gwobrwyo, diolch i gymwynasgarwch y Mayker. Mae Newt yn derbyn popeth – hynny yw, nes i’r dieithryn Devlin gyrraedd.

Yn sydyn, mae Newt yn dechrau edrych ar Bearmouth o safbwynt newydd, gan gwestiynu’r system, a sbarduno cyfres o ddigwyddiadau a allai ddinistrio eu byd i gyd. Yn y nofel gyntaf bwerus a rhyfeddol o wreiddiol hon, mae cyfeillgarwch yn creu cryfder, dewrder yn anodd ei  feithrin a gobaith yw’r llwybr at ryddid.