Cathy Fisher photo

Cathy Fisher - mae'n awdur ac yn ddarlunydd. Cafodd ei magu gydag wyth brawd a chwaer yng Nghaerfaddon ac mae wedi bod yn athrawes ac yn artist gweithredol ers iddi raddio o ysgol gelf. Mae hi wedi byw a gweithio yn y Seychelles ac yn Awstralia yn ogystal â'r DU. Mae ei gwaith celf yn portreadu ei chysylltiad dwfn â natur a'i harsylwadau tyner a chraff ar ymddygiad ac emosiwn dynol.  Mae ei darluniadau rhagorol yn ychwanegu haenau o naratif ac ystyr gweledol, gan wneud straeon yn fwy cyfoethog, yn fwy dwys ac yn fwy hygyrch. Ar y cyd â'r awdur Nicola Davies, mae wedi cyhoeddi wyth llyfr hyd yn hyn ac wedi cyrraedd rhestr hir Medal Greenaway CILIP am Perfect a The Pond. Eu gwaith diweddar mwyaf nodedig yw The New Girl.

Cathy Fisher - The Panda's Child

'The Panda’s Child' gan Jackie Morris Darluniwyd gan Cathy Fisher

Mewn coedwig bellennig, mae babi yn mynd ar goll ac yn cael ei ganfod a’i warchod gan banda.

Naw mlynedd yn ddiweddarach mae babi arall, plentyn y panda, mewn perygl mawr, a dim ond bachgen ac ysbryd y goedwig all ei achub.

Mae’r stori hudolus a phwerus hon gan Jackie Morris, cyd-grëwr y gyfrol Geiriau Diflanedig, a’r darlunydd arobryn Cathy Fisher, yn llyfr i’w drysori gan blant a phobl o bob oed, ac yn astudiaeth o hanfod ein cysylltiad â natur wyllt.