Nia Morais

Awdur, bardd, a ddramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais, sy’n sgwennu am hunaniaeth, hunan hyder, hud a lledrith, ac arswyd. Nia yw Awdur Preswyl Theatr y Sherman, ac mae hi wedi gweithio gyda’r theatr i ysgrifennu Crafangau/ Claws, addasiad o A Midsummer Night’s Dream (ar y cyd gyda Mari Izzard), ac Imrie. Ysgrifennodd hi hefyd Betty Campbell - Darganfod Trebiwt gyda Mewn Cymeriad a Theatr Genedlaethol Cymru. Nia yw Bardd Plant Cymru 2023-2025 ac mae hi hefyd yn gweithio fel cyfieithydd. Mae’n sgwennu’n ddwyieithog i bant ac oedolion.

Chwedlau gyda Bardd Plant Cymru, Nia Morais

Yn y sesiwn hon, bydd Bardd Plant Cymru, Nia Morais, yn darllen straeon Cymraeg a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â'r platfform llythrennedd digidol Darllen Co. Mae'r straeon byrion difyr hyn ar gyfer plant 7 i 11 oed a byddan nhw'n trafod caredigrwydd, cydweithredu, chwilfrydedd a chynwysoldeb. Am ragor o wybodaeth am Nia, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am nodau Darllen Co, ewch i www.darllenco.cymru.