Manon Steffan Ros photo

Manon Steffan Ros fe’i ganwyd yn Eryri a gweithiodd fel actores cyn dod yn ysgrifennwr. Mae'n ysgrifennu i oedolion a phlant ac mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru am ei ffuglen i oedolion yn ogystal ag ennill gwobr llenyddiaeth Gymraeg i blant Tir na N’Og bedair gwaith. Mae hi hefyd wedi ennill gwobrau’r Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru am ei dramâu. Wedi’i gyhoeddi'n Gymraeg yn wreiddiol fel  Llyfr Glas Nebo, a'i addasu i’r Saesneg gan yr awdur, mae llyfr Manon, The Blue Book of Nebo, wedi'i gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr urddasol Medal Ysgrifennu Yoto Carnegie. Mae hi'n byw yng ngogledd Cymru gyda'i phlant.

Manon Steffan Ros - The Blue Book of Nebo

'The Blue Book of Nebo' gan Manon Steffan Ros

Enillodd y cyfieithiad Saesneg, The Blue Book of Nebo, Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2023

Roedd Siôn yn chwech oed pan ddaeth Y Terfyn, nôl yn 2018; pan ddiffoddwyd y trydan am byth, a phan ddiflannodd byd ‘normal’ cyfarwydd yr 21ain ganrif. Bellach mae’n 14 oed ac mae ef a’i fam wedi goroesi yn eu tŷ anghysbell ar ben bryn uwchben pentref Nebo yng ngogledd-orllewin Cymru, gan ddysgu sgiliau newydd, a dychwelyd i hen ffyrdd o fyw. Er gwaethaf eu cysylltiad clos, mae’r berthynas rhwng y fam a’r mab yn newid yn gynnil wrth i Siôn orfod ysgwyddo cyfrifoldebau oedolyn. Mae gan bob un ohonyn nhw eu cyfrinachau eu hunain, sy’n dod i’r amlwg wrth iddyn nhw gofnodi eu meddyliau a’u hatgofion mewn llyfr nodiadau a ganfuwyd – Llyfr Glas Nebo.