E L Norry photo

Mae Fablehouse yn antur hud a lledrith fawreddog sy'n cyfuno arwyr annisgwyl â chwedlau Arthur. Mae'n berffaith i bobl sy'n hoffi Amari and the Night Brothers, gan fod hwn yn llyfr sy'n grymuso ac sy'n dangos i blant fod ganddynt oll rywle lle maent yn perthyn, gyda hanes a hunaniaeth y gallan nhw berchen arnynt. Mae E L Norry yn ddawn newydd gyffrous, a thrwy gael profiad personol o'r system ofal yng Nghymru, mae'n dod â chalon a llais triw Own Voices i'r antur ryfeddol hon. Meddai: 'Dw i bob amser wedi teimlo fy mod i'n perthyn ym mhobman ac yn nunlle, sef preswylydd sawl byd a hunaniaeth: yn gymysg o ran hil, yn Gymraes, yn Iddewes, byth wedi cael fy nerbyn yn llawn nac yn gwbl dderbyniadwy. Ond roeddwn i bob amser yn obeithiol ac yn chwilfrydig, a daeth chwilfrydedd i'm canfod i a'm ffrindiau dychmygol'. Bydd digwyddiad E L Norry yn ystyried ail-ysgrifennu chwedlau traddodiadol i'w gwneud yn gynhwysol i'r holl ddarllenwyr gael eu mwynhau ynghyd â natur hudol adrodd stori. Mae ei digwyddiad hi ar gyfer darllenwyr 9+ oed.

E L Norry - Fablehouse

'Fablehouse' gan E. L. Norry

Fablehouse, plasty dirgel wedi’i amgylchynu gan goetir hynafol, yw cartref newydd Heather. Wrth grwydro cefn gwlad gyda rhai o’r plant hil gymysg eraill sydd mewn gofal yno, mae hi’n dod o hyd i dŵr cerrig sy’n teimlo’n od o hudolus. Yno maen nhw’n cyfarfod Palamedes, y Marchog Du o lys y Brenin Arthur. Mae’n eu rhybuddio bod perygl yn llechu mewn byd o dan eu traed.

Mae Heather, Pal a ffrindiau yn mynd ati i achub plant sydd wedi cael eu cludo i’r isfyd bygythiol hwn. Dydyn nhw ddim yn mynd i adael unrhyw blentyn ar ôl. Mae Heather a’i ffrindiau yn sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu dewis yn arbennig ar gyfer y cyrch hwn. Rhaid iddynt ddefnyddio’u doniau unigol yn y frwydr i achub Fablehouse a’r holl blant sydd wedi cael lloches yno.